Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Dyletswyddau parhaus ar ôl ailgofrestru

Unwaith ichi ailgofrestru eich staff, fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus. Yna pob tair blynedd bydd gofyn ichi ailgofrestru staff penodol eto.

Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr, dylech gwblhau’r tasgau canlynol:

Monitro oedran ac enillion eich staff

Mae'n rhaid ichi barhau i fonitro oedran a chyflog eich staff (gan gynnwys gweithwyr newydd) i weld oes angen ichi gofrestru unrhyw un ohonyn nhw ar gynllun pensiwn am y tro cyntaf. Nid oes angen ichi wneud hyn ar gyfer staff rydych wedi'u cofrestru ar gynllun pensiwn ac sydd wedi dewis dadgofrestru o'r cynllun, gan y byddwch yn eu hasesu yn ystod eich cyfnod ail-gofrestru nesaf.

Os oes gennych chi unrhyw staff sydd 

  • rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth*
  • ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, neu £833 y mis neu £192 yr wythnos

*Os ydych yn ansicr o oedran pensiwn y wlad, defnyddiwch y Cyfrifydd Pensiwn y Wlad

Rheoli ceisiadau i ddadgofrestru neu gofrestru gyda'ch cynllun

Os ydy unrhyw un o'ch staff yn dewis dadgofrestru o'ch cynllun pensiwn (optio allan) ymhen un mis o fod yn rhan o'r cynllun am y tro cyntaf, mae angen ichi roi'r gorau i ddidynnu arian o'u cyflog a threfnu ad-daliad llawn o'r hyn sydd wedi'i dalu hyd yn hyn. Mae'n rhaid ichi wneud hyn ymhen un mis o dderbyn eu cais.

Os ydy unrhyw un o'ch staff sydd â'r hawl i ofyn i fod yn rhan o'ch cynllun, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gymwys i gael eu cofrestru'n awtomatig, yn ysgrifennu atoch yn gofyn i fod yn rhan o'r cynllun, mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar eich cynllun ymhen mis o dderbyn eu cais.

Bydd angen ichi gyfrannu tuag at y cynllun pensiwn os ydyn nhw:

  • rhwng 16-74 oed
  • ac yn ennill o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.

I ganfod faint sydd angen ichi ei dalu, fe ddylech chi ofyn i'ch darparwr cynllun pensiwn.

Cadw cofnodion

Fe ddylech chi barhau i gadw cofnodion o sut bu ichi fodloni eich dyletswyddau cyfreithiol, gan gynnwys:

  • enwau a chyfeiriadau'r rheiny rydych wedi eu cofrestru ar gynllun pensiwn.
  • Cofnodion sy'n dangos pryd gafodd taliadau eu cyflwyno i'r cynllun pensiwn.
  • Unrhyw geisiadau i gofrestru â neu ddadgofrestru â'ch cynllun pensiwn.
  • Eich cyfeirnod cynllun pensiwn neu rif cofrestru.

Mae'n rhaid ichi gadw'r cofnodion hyn am chwe blynedd oni bai am y ceisiadau i ddadgofrestru o'r cynllun pensiwn y bydd angen ichi eu cadw am bedair blynedd.

Cynnal a chadw cyfraniadau

Mae'n rhaid ichi barhau i gyfrannu'r taliadau sy'n ddyledus i'r cynllun pob tro byddwch yn prosesu'r gyflogres. Rydym yn monitro'r cyfraniadau caiff eu cyfrannu tuag at bensiynau'r gweithle a gallwn ddweud os na chaiff taliadau sy'n ddyledus eu cyfrannu at gynllun cofrestru awtomatig eich staff.  Byddwn yn gweithredu os ydych yn methu â chydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol parhaus, ac mae'n bosib y bydd angen ichi ôl-ddyddio unrhyw daliadau rydych wedi'u colli.

Eich proses ail-gofrestru nesaf

Pob tair blynedd bydd gofyn ichi ail-adrodd y camau rydych wedi'u cyflawni er mwyn ail-gofrestru rhai staff ar eich cynllun pensiwn, a bydd angen ichi ail-ddatgan er mwyn rhoi gwybod inni am y camau rydych wedi'u cyflawni. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi i egluro beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd.

Darllen mwy am yr hyn sydd angen ichi ei wneud ar gyfer eich proses ail-gofrestru nesaf.

Gofalwch bod eich manylion cyswllt yn gywir er mwyn inni ysgrifennu at y person cywir ynghylch eich dyletswyddau parhaus a dyletswyddau ail-gofrestru. Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein.