Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Rydw i yn neu mi fydda i yn gyflogwr gyda staff i'w hail-gofrestru ar fy nghynllun pensiwn

Yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych wedi'i chyflwyno, mae angen ichi ail-gofrestru rhai staff ar eich cynllun pensiwn. Mae'n rhaid ichi gyflawni'r ddau gam isod, sef cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Cofiwch, mae'r rhain yn ddyletswyddau cyfreithiol arnoch chi ac os na wnewch chi eu cyflawni mewn pryd mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Mae hefyd gofyn ichi barhau gyda'ch dyletswyddau parhaus eraill.

Cam 1: Ailgofrestru

Gwirio fod gennych chi staff iw hail gofrestru ar eich cynllun pensiwn

Mae'n rhaid ichi wirio oedran ac enillion y staff rydych wedi'u hadnabod a chanfod oes angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Gwnewch hyn wedi iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau cofrestru awtomatig neu eich dyddiad gweithredu.

2. Ysgrifennu at staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn

Defnyddiwch ein templed llythyr enghreifftiol i ysgrifennu at staff i roi gwybod iddyn nhw eich bod chi wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Gwnewch hyn ymhen 6 wythnos wedi iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau cofrestru awtomatig neu eich dyddiad gweithredu.

Cam 2: Ail-ddatganiad

Cwblhau eich Ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn

Defnyddiwch ein rhestr wirio ar gyfer ail-ddatgan (PDF, 660kb, 2 dudalen) i gwblhau eich ail-ddatganiad i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn. Cofiwch wneud hyn erbyn eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan neu mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Gwnewch hyn o fewn pum mis i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau cofrestru awtomatig neu eich dyddiad gweithredu.