Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Ailgofrestru nesaf

Yr wyf yn gyflogwr gyda staff i'w rhoi yn ôl yn fy nghynllun pensiwn

Yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych wedi'i chyflwyno, mae angen ichi ail-gofrestru rhai staff ar eich cynllun pensiwn. Mae'n rhaid ichi gyflawni'r ddau gam isod, sef cwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Cofiwch, mae'r rhain yn ddyletswyddau cyfreithiol arnoch chi ac os na wnewch chi eu cyflawni mewn pryd mae'n bosib y cewch chi ddirwy.

Mae hefyd gofyn ichi barhau gyda'ch dyletswyddau parhaus eraill.

Cam 1: Ailgofrestru

1. Gwirio fod gennych chi staff iw hail gofrestru ar eich cynllun pensiwn

Mae'n rhaid ichi wirio oedran ac enillion y staff rydych wedi'u hadnabod a chanfod oes angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Gwnewch hyn ar drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.

2. Ysgrifennu at staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn

Defnyddiwch ein templed llythyr enghreifftiol i ysgrifennu at staff i roi gwybod iddyn nhw eich bod chi wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Gwnewch hyn o fewn 6 wythnos i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.

Cam 2: Ail-ddatganiad

Cwblhau eich Ail-ddatganiad cydymffurfio erbyn eich dyddiad terfyn


Defnyddiwch ein rhestr wirio ar gyfer ail-ddatgan (PDF, 660kb, 2 dudalen) i gwblhau eich ail-ddatganiad i roi gwybod inni faint o aelodau o staff rydych wedi'u hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Gwnewch hyn o fewn 5 mis i drydydd pen-blwydd eich dyddiad ailgofrestru blaenorol.

Bydd angen eich cyfeirnod PAYE arnoch a naill ai eich cod llythyr neu gyfeirnod eich swyddfa gyfrifon i gychwyn arni.